Shopping Basket

Telerau ac Amodau

Croeso i Siop Ar-lein Jenipher’s Coffi –  www.jenipherscoffi.cymru (y ‘Safle’). Rheolir y Wefan hon a’i gweithrediadau ategol gan Fair Do’s – Siopa Teg CIC (rhif cofrestredig U.K. 8688145). Darllenwch y polisïau canlynol yn ofalus cyn defnyddio’r Wefan. Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych chi’n cytuno ymrwymo i’r amodau hyn.

  1. Telerau Defnyddio
  2. Telerau Gwerthu: Siop

Telerau Defnyddio

Dyma delerau ac amodau cyffredinol Jenipher’s Coffi sy’n llywodraethu eich defnydd o’r Wefan.

1. Beth y caniateir ichi ei wneud

1.1 prynu nwyddau o’r Siop, ar yr amod eich bod yn derbyn y Telerau Gwerthu, a fydd yn berthnasol i unrhyw gytundeb a wneir rhyngoch chi a Jenipher’s Coffi ar gyfer prynu a gwerthu nwyddau o’r Siop. Amlinellir y telerau hyn yn Adran 2 isod;

1.2 pori’r Siop gan ddefnyddio porwr gwe cydnaws. Mae’r caniatâd i bori trwy’r Siop yn cynnwys caniatâd i wneud copïau dros dro neu greu storfa o rannau o’r Siop i’r graddau bod hyn yn digwydd yn ystod y cwrs arferol o ddefnyddio’ch porwr a bod y copïau hyn yn cael eu defnyddio i hwyluso mynediad cyfredol neu ddilynol i’r Siop gennych chi yn unig;

1.3 argraffu copi o unrhyw dudalen o’r Siop; at eich dibenion personol eich hun, ar yr amod nad ydych yn gwneud unrhyw un o’r pethau a nodir o dan “Yr hyn na chaniateir i chi ei wneud”.

2. Yr hyn na chaniateir i chi ei wneud

2.1 ni chewch dynnu na newid unrhyw beth ar y Siop;

2.2 ni chaniateir i chi gopïo na defnyddio unrhyw ddeunydd o’r Siop at unrhyw bwrpas masnachol oni bai bod caniatâd wedi’i nodi ar y Wefan mewn cysylltiad â Thrwydded Creative Commons.

2.3 ni chaniateir i chi dynnu na newid unrhyw hawlfraint, nod masnach na hysbysiadau hawliau eiddo deallusol eraill sydd wedi’u cynnwys yn y deunydd gwreiddiol, nac o unrhyw ddeunydd a gopïwyd neu a argraffwyd o’r Siop.

3. Eich gwybodaeth bersonol

3.1 Mae defnydd o’ch gwybodaeth bersonol yn cael ei lywodraethu gan Bolisi Preifatrwydd Jenipher’s Coffi.

4. Enwau Defnyddwyr a Chyfrineiriau

4.1 Os ydych chi am brynu rhywbeth o’r Siop, byddwn yn gofyn i chi gofrestru cyfrif gyda ni. Yn ystod y broses gofrestru, gofynnir ichi ddarparu’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair, er mwyn gallu prynu nwyddau o’r Siop;

4.2 Rhaid i chi gadw’ch cyfrinair (cyfrineiriau) yn gyfrinachol bob amser, a rhaid i chi beidio â datgelu’r cyfrinair (cyfrineiriau) na chaniatáu i unrhyw un arall ddefnyddio’ch cyfrinair (cyfrineiriau). Bydd unrhyw achos o dorri unrhyw un o’r telerau hyn gan unrhyw un yr ydych yn datgelu’r cyfrinair (cyfrineiriau) iddynt yn cael ei drin fel pe bai’r toriad wedi’i gyflawni gennych chi, ac ni fydd yn eich rhyddhau o’ch rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn;

4.3 Os bydd unrhyw fethiant neu wall wrth weithredu cyfrinair (cyfrineiriau), bydd rhaid i chi beidio â defnyddio’r cyfrinair (cyfrineiriau) ac yna gadael y Siop ar unwaith, a hysbysebu Jenipher’s Coffi o’r fath fethiant neu wall.

5. Hawliau

5.1 Mae’r holl hawliau eiddo deallusol mewn unrhyw ddeunydd (gan gynnwys testun, ffotograffau a delweddau eraill, sain, lawrlwythiadau, meddalwedd, nodau masnach a logos) a gynhwysir ar y Wefan hon naill ai’n eiddo i Jenipher’s Coffi neu wedi’i drwyddedu i Jenipher’s Coffi gan berchennog yr hawliau fel y gall Jenipher’s Coffi ddefnyddio’r deunydd hwn fel rhan o’r Siop. Diogelir yr hawliau hyn gan ddeddfauhawlfraint a hawliau cronfa ddata’r Deyrnas Unedig a rhyngwladol. Dim ond fel y nodir yn y telerau hyn y caniateir ichi ddefnyddio’r Siop hon a’r deunydd ynddo.

6. Gwefannau trydydd bartion

6.1 Mae’r Siop hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd partion eraill, nad ydyn nhw o dan reolaeth ac nad ydyn nhw’n cael eu cynnal a’u cadw gan Jenipher’s Coffi. Nid yw unrhyw gysylltiadau o’r fath yn gyfystyr â chymeradwyaeth Jenipher’s Coffi o unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau sydd ar gael ar wefannau o’r fath. Mae Jenipher’s Coffi yn darparu’r dolenni hyn er hwylustod ichi yn unig ac rydych yn defnyddio dolenni o’r fath yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys na defnydd gwefannau neu unrhyw wybodaeth sydd ynddynt.

7. Atal a therfynu cyfrifon

7.1 Gall Jenipher’s Coffi atal gweithrediad y Wefan ar gyfer gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw neu er mwyn diweddaru neu uwchraddio cynnwys neu ymarferoldeb y Siop o bryd i’w gilydd. Ni fydd mynediad i’r Siop neu’r tudalennau sy’n gysylltiedig â hi o reidrwydd yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau;

7.2 Gall Jenipher’s Coffi derfynu eich cyfrif (on) ar unwaith os byddwch yn torri unrhyw un o’r telerau defnyddio hyn neu os ydych yn hwyr neu os nad ydych yn talu unrhyw symiau sy’n ddyledus i Jenipher’s Coffi.

8. Ymholiadau neu gwynion

8.1 Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion am y Wefan yna cyfeiriwch nhw at:

Gwasanaethau cwsmer

Jenipher’s Coffi
Fair Do’s Siopa Teg CIC,
10 Llandaff Rd,
Canton,
Caerdydd.
CF11 9NJ
Wales, UK

Ebost: hello@jenipherscoffi.cymru

9. Cyfraith cyffredinol a llywodraethol

9.1 Gall Jenipher’s Coffi newid y telerau defnyddio hyn o bryd i’w gilydd a byddwn yn ceisio eich hysbysu o unrhyw newidiadau mawr trwy bostio neges ar y Wefan. Trwy bori trwy’r Wefan rydych chi’n derbyn eich bod yn rhwym i’r telerau defnyddio cyfredol. Adolygwch y polisi hwn bob tro y byddwch yn defnyddio’r Wefan gan y gall Jenipher’s Coffi ei newid ar unrhyw amser heb roi rhybudd i chi ymlaen llaw.

9.2 Mae’r Cytundeb hwn yn cynnwys y cytundeb cyfan rhwng Jenipher’s Coffi a chi ac yn disodli’r holl gytundebau, sylwadau, datganiadau a dealltwriaeth flaenorol rhwng Jenipher’s Coffi a chi ynglŷn â defnyddio’r Wefan. Rydych yn cytuno nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw sylw neu ddatganiad na chofnodwyd yn yr Amodau hyn wrth ymrwymo i’r Cytundeb hwn.

9.3 Ni fydd methiant Jenipher’s Coffi i arfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn, neu’r oedi gan Jenipher’s Coffi wrth wneud hynny, yn ildio hawl neu ddarpariaeth o’r fath. Os yw unrhyw un o ddarpariaethau’r Cytundeb hwn yn cael ei ddal yn annilys, bydd gweddill y Cytundeb hwn yn parhau mewn grym gweithredol. Mae teitlau’r adrannau yn y Cytundeb hwn er hwylustod yn unig ac nid ydynt yn cael unrhyw effaith gyfreithiol na chytundebol.

9.4 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, ac rydych yn cydsynio i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n codi ohonynt.

Telerau Gwerthu: Siop

Mae’r Polisi Telerau Gwerthu yma yn rhan o’r Telerau Defnyddio Cyffredinol, sy’n llywodraethu eich defnydd o’r Wefan, ac yn cwmpasu gweithgareddau prynu ar y Siop.

1. Y telerau gwerthu

Os prynwch unrhyw nwyddau o’r Siop, byddwch yn creu cytundeb gyda Jenipher’s Coffi ar sail y telerau a amlinellir isod. Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus.

1.1 Mae’r Telerau Gwerthu hyn (“Telerau Gwerthu”) yn llywodraethu cyflenwad unrhyw nwyddau rydych chi’n eu harchebu trwy’r Siop yma. Darllenwch y Telerau Gwerthu yn ofalus. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau Gwerthu, peidiwch ag archebu unrhyw nwyddau o’r Siop yma. Os yw Jenipher’s Coffi yn derbyn unrhyw archeb o nwyddau gennych chi, yna bydd cytundeb yn cael ei wneud gyda chi ar sail y Telerau Gwerthu hyn.

1.2 Sylwch fod Jenipher’s Coffi yn cadw’r hawl i newid y Telerau Gwerthu o bryd i’w gilydd. Bydd Jenipher’s Coffi yn cyhoeddi’r Telerau Gwerthu diwygiedig ar y Siop a bydd unrhyw fersiynau newydd o’r Telerau Gwerthu yn dod i rym cyn gynted ag y bydd Jenipher’s Coffi yn eu cyhoeddi ar y Siop (ac eithrio bod unrhyw archebion y mae Jenipher’s Coffi eisoes wedi’u derbyn gennych cyn bydd unrhyw newid o’r fath yn ddarostyngedig i’r Telerau Gwerthu sydd mewn grym bryd hynny). Os ydych yn defnyddio’r Siop ar ôl i Jenipher’s Coffi gyhoeddi’r Telerau newydd, mae eich defnydd parhaus o’r Siop yn nodi eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau Gwerthu newydd.

2. Argaeledd y nwyddau a gyflenwir gan y Siop

2.1 Gall Jenipher’s Coffi derfynu neu atal cyflenwad unrhyw nwyddau a arddangosir ar y Siop os bydd nwyddau allan o stoc, ar gyfer gwaith cefnogi neu gynnal a chadw, er mwyn diweddaru cynnwys neu am unrhyw reswm arall. Gall Jenipher’s Coffi wneud hyn ar unrhyw adeg a heb rybudd. Mae cynnyrchar y Siop fel arfer ar gael i’w hanfon o fewn 24 awr ac ar gyfer cynnyrchsydd ar gael yn arafach, darperir amser cludo arfaethedig yn y rhestrau cynnyrch cysylltiedig ar y Siop.

3. Prynu nwyddau o’r Siop hon

3.1 Polisi prisio – Gall Jenipher’s Coffi newid prisiau’r nwyddau sy’n cael eu harddangos yn y Siop ar unrhyw adeg. Mae’r prisiau ar gyfer yr holl nwyddau sydd ar gael yn y Siop wedi’u nodi’n glir yn eu disgrifiad a, lle bo hynny’n berthnasol, yn amodol ar TAW ar y gyfradd gyffredinol. Mae’r swm cynhwysol TAW, lle bo hynny’n berthnasol, wedi’i gynnwys yng nghyfanswm y pris a gyhoeddir ar y wefan. Rydym yn cadw’r hawl i godi ein prisiau yn unol ag unrhyw gynnydd yng nghyfradd TAW. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn glir ar eich archeb. Mae’r holl daliadau cludo cymwys hefyd yn cael eu harddangos yn y Siop. Mae’r prisiau i gyd mewn Punnoedd Sterling. Gall Jenipher’s Coffi gynnig hyrwyddiadau a gostyngiadau gan ddefnyddio codau hyrwyddo. Dim ond un cod hyrwyddo sy’n ddilys fesul archeb.

3.2 Casgliad y Cytundeb Gwerthu – Mae’r wybodaeth sy’n ymwneud â nwyddau Jenipher’s Coffi, a phrisiau perthnasol, yn cael eu harddangos ar y Siop er gwybodaeth ac i’ch galluogi i benderfynu a hoffech wneud cynnig i ni i brynu unrhyw nwyddau o’r fath. Pan roddwch orchymyn i brynu cynnyrch o www.jenipherscoffi.cymru, byddwn yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich archeb a fydd yn cynnwys manylion eich archeb. Mae eich archeb yn cynrychioli caisi ni i brynu cynnyrch. Bydd yr ebost yr anfonwn atoch i gadarnhau ein bod wedi anfon y cynnyrch atoch hefyd yn gweithredu fel cadarnhad ein bod wedi derbyn eich archeb. Bydd y derbyniad hwnnw’n gyflawn ar yr adeg y byddwn yn anfon yr e-bost cadarnhau cludo atoch. Nid yw unrhyw gynnyrch ar yr un archeb nad ydym wedi’u cadarnhau mewn e-bost cadarnhau cludoyn rhan o’r cytundeb hwnnw.

3.3 Dull talu – Ar gyfer archebion a wneir drwy’r Siop, mae Jenipher’s Coffi yn derbyn XXXX. Nid yw Jenipher’s Coffi yn derbyn XXXX. Wrth wneud eich taliad, mae’n hanfodol eich bod yn darparu’r wybodaeth y mae Jenipher’s Coffi yn ei nodi sy’n ofynnol, er enghraifft, enw, fel y’i dangosir ar y cerdyn a’r cyfeiriad yn union fel y mae’n ymddangos ar ddatganiad y cerdyn. Bydd eich cerdyn yn cael ei ddebydu pan fydd Jenipher’s Coffi yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich archeb. Ni fydd perchnogaeth na theitl y cynnyrch yn trosglwyddo i chi, y prynwr, nes bod Jenipher’s Coffi wedi derbyn taliad llawn.

3.4 Dosbarthu a Chludo – Rydym yn defnyddio’r Post Brenhinol ar gyfer ein gwasanaethau safonol, gan mai nhw yw’r cwmni dosbarthu mwyaf carbon-ymwybodol. Codir ffioedd postio am bob archeb. Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio opsiynau postio amgen i atal tarfu ar archebion. Gan ein bod yn frand newydd, byddwn yn parhau i adolygu ein gwasanaethau i sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau cwsmeriaid ac yn defnyddio gwasaneth sydd yn cyd-fynd â’n gwerthoedd. Mae’r taliadau hyn yn ymwneud â phacio, trin a danfon. Fel rheol, ymatebir i archebiono fewn 24 awr ac fel rheol cânt eu danfon o fewn 5 diwrnod gwaith. Caniatewch hyd at 10 diwrnod ar gyfer danfon. Os nad ydych wedi derbyn eich nwyddau o fewn yr amserlen uchod, cysylltwch â’n hadran gwasanaethau cwsmeriaid trwy e-bost ar hello@jenipherscoffi.wales. Gallwn anfon y mwyafrif o eitemau ledled y byd. Bydd taliadau’n dibynnu ar reolau tollau eich  lleoliad a byddwch yn gyfrifol am yr holl ffioedd, taliadau a TAW yn eich gwlad. Adolygwch y taliadau a godir arnoch cyn cadarnhau unrhyw archeb, er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn.

3.5 Allan o stoc – Os na fydd unrhyw eitem a ddewiswyd gennych ar gael, bydd Jenipher’s Coffi yn cysylltu â chi dros y ffôn neu ar eich cyfeiriad e-bost ac yn nodi’r opsiynau sydd ar gael ichi. Mae gweithredu ar draws cyfandiroedd, a rhanbarthau sydd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, yn golygu y bydd tarfu ar ein gwasanaethau yn anochel o bryd i’w gilydd, ond rydym yn gweithio’n galed gyda’r ffermwyr ac actorion eraill yn ein cadwyn gyflenwi i leihau’r effeithiau o hyn gymaint â phosib.

3.6 Polisi dychwelyd nwyddau – Rydym am i chi fod yn gwbl fodlon â’r hyn rydych chi’n ei brynu. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn hollol fodlon â’n cynnyrch neu ein gwasanaeth fel y gallwn unioni’r sefyllfa. Rydym yn ceisio sicrhau bod y cynnyrch yr un peth â’n samplau gwreiddiol, er bod gwahaniaethau weithiau’n digwydd. Disgrifir a ffotograffir eitemau mor gywir â phosibl, ond nodwch y gall meintiau, lliwiau a dyluniadau amrywio. Os nad ydych yn hollol fodlon ag unrhyw eitem a archebwyd gennym, dychwelwch ef, os yn bosibl yn y pecyn gwreiddiol (gyda’ch nodyn cyngor cwsmer) cyn pen 30 diwrnod o’r dyddiad ei dderbyniwyd a byddwn yn ad-dalu’ch arian neu’n anfon un arall atoch – ni ofynnir unrhyw gwestiynau. Rhaid i eitemau a ddychwelir o dan bolisi dychwelyd 30 diwrnod Jenipher’s Coffi fod heb eu hagor gydag unrhyw seliau a deunyddiau lapio yn gyfan.

Sylwch: dim ond os ydynt yn ddiffygiol y gallwn dderbyn eitemau agored sydd yn cael eu dychwelyd. Dim ond cynhyrchion union yr un fath y gallwn eu disodli, felly os ydych am archebu eitemau ychwanegol bydd yn cael ei drin fel archeb newydd. Mae gwarant Jenipher’s Coffi yn ychwanegol at eich hawliau statudol. Pan anfonwch eich eitem yn ôl atom, byddwn yn prosesu’r eitem a’i ddychwelwyd ac yna’n eich hysbysu trwy e-bost o’ch ad-daliad.

Gallwch ddisgwyl ad-daliad yn yr un ffurf o daliad a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i brynu’r eitem cyn pen 14 diwrnod ar ôl i ni dderbyn y nwyddau a ddychwelwyd. Sylwch nad oes modd ad-dalu costau ar gyfer dychwelyd yr eitem atom.

Os ydych yn dychwelyd eitem oherwydd gwall ar ein rhan neu oherwydd ei fod wedi’i ddifrodi neu’n ddiffygiol, byddwn yn hapus i ad-dalu’r taliadau cludo a godwyd wrth anfon yr eitem atoch, a byddwn yn ad-dalu costau rhesymol i chi ei ddychwelyd atom. Cysylltwch â ni i gadarnhau bod y gost yn rhesymol.

Os yw’r cynnyrch wedi’i ddifrodi mewn unrhyw ffordd, neu wedi torri wrth ei gludo, cysylltwch â’n gwasanaethau cwsmeriaid trwy e-bost yn hello@jenipherscoffi.cymru.

3.7 Polisi Canslo – Sylwch fod gennych hawl gyfreithiol i ganslo’ch archeb cyn pen 7 diwrnod o ddyddiad derbyn y nwyddau (ar yr amod bod y nwyddau’n cael eu dychwelyd atom yn newydd ac heb eu defnyddio yn y pecyn gwreiddiol ynghyd â chopi o’r dderbynneb). Wrth ddychwelyd eitem(au), paciwch yn ddiogel, gan amgáu’r nodyn gwybodaeth a’i anfon yn ôl i Fair Do’s Siopa Teg CIC, 10 Llandaff Rd, Treganna, Caerdydd. CF11 9NJ. Darperir ad-daliad o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad canslo.

3.8 Oedran cyfreithiol – Nid yw Jenipher’s Coffi yn gwerthu cynnyrch i’w prynu gan blant. Rydym yn gwerthu cynnyrch plant i’w prynu gan oedolion. Os ydych chi o dan 18 oed, dim ond gyda chyfraniad rhiant neu warcheidwad y gallwch ddefnyddio Jenipher’s Coffi

3.9 Talebau – O bryd i’w gilydd, gellir rhoi talebau i’w danfon am ddim neu am ostyngiadau ar archebion neu gynhyrchion. Dim ond un taleb y gallwch ei defnyddio fesul archeb. Dim ond unwaith y gellir defnyddio rhai talebau fesul cwsmer. Cysylltwch â hello@jenipherscoffi.wales os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfnewid cod talebau.

3.10 Rhoddion am ddim – O bryd i’w gilydd, gellir cynnig cynnyrch am ddim gydag archeb ney gynnyrch. Mae’r cynnyrch am ddim  wedi’u cynnwys fel rhan o’ch archeb ac os dychwelir unrhyw ran o’r archeb am ad-daliad rydym yn cadw’r hawl i dynnu gwerth yr anrheg am ddim o’ch ad-daliad os na chânt eu dychwelyd hefyd.