Shopping Basket

Stocwyr

Al Ponte

Pontcanna, Caerdydd

Deli, siop win a chigydd newydd ym Mhontcanna yw Al Ponte. Maent yn stocio ein bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa. Rydym yn argymell pori eu dewis rhagorol o win pan yn y siop i brynu coffi!

Learn More

Caffi Soar

Merthyr

Yn dennu cerddorion, artistiaid, perfformwyr, haneswyr a dysgwyr Cymraeg ymhlith eraill, mae Caffi Soar yn le gwych i fynd i ddal i fyny gyda ffrindiau neu gwylio’r byd yn mynd heibio. Gwaith blinedig, felly lwcus medrwch chi brynnu ein bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa tra yno!

Learn More

Caffi Pop-Up Jenipher’s Coffi

1 Adeiladau Lewis, Porthcawl

Bydd gan Jenipher’s Coffi ein caffi pop-up ein hunain yn haf 2023, ger lan y môr ym Mhorthcawl. Galwch i mewn i nol ychydig o goffi, cymryd paned i fynd neu gorffwys am ychydig a chael sgwrs gyda ni am bob peth yn ymwneud â Jenipher’s Coffi.

Camlan Garden Centre Farm Shop

Dinas Mawddwy

Wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Siop Fferm Camlan yn stocio amrywiaeth fawr o gynnyrch o safon. Mae nhw’n stocio ein bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa. Ac, os fel ni rydych chi’n caru caws cymaint â’ch bod chi’n caru coffi, mae ganddyn nhw gownter deli wedi’i lenwi â dros 30 o gawsiau Cymreig. Peidiwch a’i fethu!

Learn More

Camp Plas

Dolanog, Canolbarth Cymru

Gyda maes gwersylla tawel a llety clyd yn swatio ym mryniau tawel canolbarth Cymru, mae Camp Plas yn le gwych i arafu a dod ychydig yn agosach at natur. Ond pan fyddwch chi’n dianc rhag bywyd bob dydd, does dim rhaid i chi fynd heb goffi gwych, gyda’n bagiau bach o goffi wedi malu ar gael yn eu blwch gonestrwydd.

Learn More

Gardd y Ddraig

Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin

Mae Gardd y Ddraig/ The Dragon’s Garden yn siop fach wych sy’n cael ei rhedeg gan Mandy ar gyrion Llansadwrn. Mae’n lecyn hyfryd wedi’i lenwi â llyfrau, hadau, planhigion, llysiau ffres, anrhegion Masnach Deg a bwyd, gan gynnwys ein bagiau 227g o goffi wedi malu.

Learn More

Gardd Sadwrn

Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin

Mae Gardd Sadwrn yn fusnes bach sy’n cyflenwi blychau ffrwythau a llysiau wythnosol yn ardal Llasadwrn. Yn arbenigo mewn bwyd sydd naill ai’n organig, lleol neu’n Fasnach Deg, gall eu blychau hefyd gynnwys wyau, bwydydd cyflawn, siocled a’n coffi. Gallwch ddewis ychwanegu bag 227g o’n coffi wedi malu i’ch bocs, a’i dderbyn ar eich stepen drws.

Learn More

Penylan Pantry

Penylan, Caerdydd

Yn siop gornel/ deli ar Kimberly Road, made Penylan Pantry yn hyrwyddo cynhyrchwyr lleol, y gymuned a’r amgylchedd. Mae eu silffoedd yn llawn bwyd a diod mwyaf blasus, ac rydyn ni’n gyffrous iawn bod ein bagiau 227g o goffi wedi malu bellach wedi ymuno a chwmni gwych ar ein silffoedd.

Learn More

Pulse Wholefoods

Canton, Caerdydd

Wedi’i enwi ar ôl siop o’r enw Pulse Wholefoods a oedd yn rhedeg mor bell nôl â’r 70au ar Kings Road yng Nghaerdydd, mae’r siop newydd yma yn cyflenwi bwydydd cyflawn a chynhyrchion naturiol, gan gynnwys ein bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa.

Learn More

Rainbow Turtle

Paisley, Yr Alban

Ein stociwr cyntaf yn yr Alban, mae Rainbow Turtle yn siop hyfryd yn Paisley a sefydlwyd gan grŵp yn ôl yn 2020 a oedd am annog mwy o bobl i brynu cynhyrchion wedi’u masnachu’ deg. O siocled a chrefftau i gardiau a choffi – gan gynnwys ein un ni – mae’n werth ymweld â’r siop. Fel y gallwch weld o’r llun, mae Jenipher wedi ymweld â’r tîm! Fe gewch hyd o’n bagiau 1kg a 227g o goffi wedi malu a ffa yn y siop.

Learn More

Splo-down

Splott, Caerdydd

Mae Splo-down yn gydweithredfa bwyd sy’n ymroddedig i ddod â bwyd da, fforddiadwy i Splott, Adamsdown, a Tremorfa yng Nghaerdydd. Fe welwch y tîm bob dydd Mercher rhwng 5-7 yh yng Nghanolfan Oasis yn Splott. O flychau llysiau tymhorol i gynhyrchion ecogyfeillgar a’n coffi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â nhw. Maen nhw’n gwerthu ein coffi yn rhydd, coffi wedi malu yn ogystal a ffa.

Learn More

Siop y Pentan

Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Sefydlwyd Siop y Pentan ym 1972, a heddiw mae’n fusnes teulol prysur wedi’i leoli yn Y Farchnad yng Nghaerfyrddin. Mae gan y siop bopeth – o lyfrau i ddillad a chrefftau – a phod dim a chysylltiad unigryw â Chymru – gan gynnwys ein coffi. Dewch o hyd i’n bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa ar eu silffoedd.

Learn More

Sussed

Porthcawl

Mae Sussed yn siop foesegol a Masnach Deg ym Morthcawl, sydd yn hunan-ddisgrifiedig fel ‘cornucopia’ o bethau cŵl – a byddai’n rhaid i ni gytuno! Mae’r siop wedi’i lenwi â dillad, bwyd, anrhegion, nwyddau cartref, a llyfrau, gyda’n bagiau 227g o goffi wedi malu a ffa yn rhan o’r gymysgedd. Yn gydweithredfa a redir gan wirfoddolwyr, byddwch bob amser yn cael croeso cynnes – fel y gwnaeth Jenipher, fel y gwelwch o’r llun.

Learn More

Zero Penarth

Penarth

Mae Zero Penarth yn siop sero gwastraff wedi’i leoli yn Arcêd Windsor yn nhref glan môr Penarth. Mae ganddyn nhw ystod enfawr o gynhyrchion dim gwastraff ar gael, yn ogystal â hanfodion cartref di-blastig, syniadau am roddion eco a mwy. Mae ein coffi ar gael mewn bagiau 1kg neu’n rhydd, fel ffa neu coffi wedi malu.

Learn More