Mwy na choffi da
Mae ansawdd Jenipher’s Coffi wedi gwreiddio yn y pridd. Wedi’i dyfu â llaw o briddoedd folcanig a ffrwythlon Mt Elgon, mae’r coffi hwn yn hynod o felys a ffrwythlon. Ond mae’r pridd dan fygythiad, felly hefyd y mae’r ffermwyr sy’n gweithio’n galed i gynhyrchu’r coffi.
Yn y rhan hyfryd yma o Uganda, mae newid hinsawdd wedi bod yn bygwth ffermwyr ers sbel. Mae llifogydd a mwdlithriadau yn dod yn fwy ac yn fwy aml, gan olchi’r pridd gwerthfawr i lawr y mynydd.
Law yn llaw a cheisio chynhyrchu coffi o’r ansawdd uchaf, mae’r ffermwyr hefyd ar daith i amddiffyn y pridd a’r amgylchedd.
Ac rydym yn gwneud ein gorau i’w cefnogi ar y daith hon, trwy fasnachu ar delerau Masnach Deg ac mewn partneriaeth uniongyrchol â’r ffermwyr.
Pan rydych chi’n prynu Jenipher’s Coffi, rydych chi’n dod yn rhan o gymuned o gynhyrchwyr ac yfwyr coffi sydd yn gweithio gyda’u gilydd i roi pobl a’r blaned yn gyntaf.


Y paned perffaith
Mae Jenipher’s Coffi yn goffi amryddawn, blasus pa bynnag y ffordd yr rydych chi’n ei baratoi.

Arbed y pridd
Mae yfed Jenipher’s Coffi yn helpu ffermwyr Mt Elgon i adfer y pridd folcanig gwerthfawr.

Hyrwyddo cydraddoldeb
Wedi’i enwi ar ôl ffermwr coffi benywaidd, mae Jenipher’s Coffi yn cefnogi ffermwyr benywaidd i ffynnu, nid dim ond goroesi.
Prosiect plannu coed
Mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi yn anelu i blannu 25 miliwn o goed. Mae hyn yn gwneud yr ardal yn fwy gwydn i lifogydd a mwdlithriadau ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, er ein lles ni i gyd.