Shopping Basket

Ein Stori

Egin degawdau o gyfeillgarwch

Mae na gryn gyfeillgarwch rhwng Cymru ag ardal Mt Elgon yn Uganda. Am ddegawdau, rydym wedi bod yn cyfnewid syniadau, yn rhannu dysgu ac yn gweithio law yn llaw i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r ardal a'r byd.

Croesawu ffermwyr i Gymru

Mae ffermwyr o ranbarth Mt Elgon wedi bod yn ymwelwyr rheolaidd â Chymru dros y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod dathliadau blynyddol Pythefnos Masnach Deg. Wrth ymweld ag ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol yng Nghymru, mae'r ffermwyr wedi bod yn rhannu sut mae Masnach Deg wedi gwneud gwahaniaeth i'w cynhyrchiad coffi a'u cymunedau.

Y cwestiwn a ddechreuodd y cyfan

Ar ymweliad ag Uganda yn 2010, cyfarfodd Elen â Jenipher ac maen nhw wedi bod mewn cysylltiad ers hynny. Yn ystod y cyfarfod cyntaf hwnnw, gofynnodd Elen sut y gall pobl yng Nghymru gefnogi'r ffermwyr orau. Roedd ateb Jenipher yn syml - prynwch ein coffi ar delerau Masnach Deg. Yn 2020, daeth hyn yn realiti a ganwyd Jenipher’s Coffi.

Y Premiwm Masnach Deg

Mae'r Premiwm Masnach Deg yn swm ychwanegol a delir i'r ffermwyr ar ben y pris Masnach Deg, y maent gyda'i gilydd yn penderfynu sut i'w wario er budd eu busnes neu eu cymuned, er enghraifft buddsoddi mew prosiectau dŵr glân neu addysg, neu ar offer sydd yn helpu i gynhyrchu coffi yn fwy effeithlon.

Grymuso menywod

Ers amser maith, mae'r sector goffi wedi cael ei ddominyddu gan ddynion, gyda menywod yn hanesyddol yn cael llai o fynediad i dir, credyd a chymorth technegol. Mae'r safonau Masnach Deg yn helpu i herio'r bwlch yma, gan gynorthwyo menywod i arwain a llwyddo ar eu telerau eu hunain.

Achub y pridd

Trwy blannu coed a ffermio’n organig trwy ddull a elwir yn amaeth-goedwigaeth, mae’r ffermwyr yn gwella iechyd y pridd ac yn ei amddiffyn rhag y llifogydd cryf sy’n bygwth ei olchi i ffwrdd.

Gweithio ar y cyd

Mae casgliad o sefydliadau ac unigolion ymroddedig yng Nghymru ac Uganda wedi dod ynghyd i wneud Jenipher’s Coffi yn realiti. Mae’r gwerthoedd cydweithredol y mae’r ffermwyr yn ei dal, o gydraddoldeb i onestrwydd a chydsafiad yn ymestyn ar draws ein holl weithgareddau.

3664

Mae miloedd o ffermwyr, pob un yn ffermio tua 2-3 erw yn gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu'r coffi blasus sydd yn ein bagiau. Maent yn rhannu gwybodaeth er bydd cynhyrchu coffi o'r ansawdd uchaf tra’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Fel hyn, maen nhw'n amddiffyn eu bywoliaeth a'r lle maen nhw, a ni, yn ei alw'n gartref.

Cymryd camau yn erbyn yr argyfwng hinsawdd

Mae mwdlithriadau a llifogydd yn taro cymunedau amaethyddol Mt Elgon yn fwy a mwy aml.  Mae eu heffeithiau yn ddinistriol ac yn aml yn angheuol. Trwy blannu coed, defnyddio dulliau ffermio cynaliadwy a rhedeg rhaglenni addysg ar y cyd, mae pobl Cymru ac Uganda yn gweithio gyda’u gilydd i ymladd yn ôl. Rydyn ni’n cefnogi cymunedau yn Mt Elgon i liniaru effeithiau newid hinsawdd a dod yn fwy gwydn i’r tywydd eithafol maen nhw’n eu hwynebu.

Y newyddion diweddara

Daw pethau da i'r rhai sy'n cofrestru i'n cylchlythyr, gan gynnwys newyddion unigryw a chynigion arbennig.