Mae ein coffi yn dod i Gymru ar long confensiynol o Uganda, trwy Mombasa ac rydym yn anelu at leihau ein carbon hyd at 50% trwy weithio gyda International Windshipping. Rydyn ni’n gynhyrfys iawn am hyn.
Byddwn yn ymdrechu i ddod â’ch coffi atoch yn y ffordd fwyaf niwtral o ran carbon. Ar hyn o bryd, y Post Brenhinol sydd â’r ymrwymiad cryfaf i garbon sero yn y DU a nhw yw’r cyflenwr â ffefrir.
Mae ein costau dosbarthu yn dechrau o £ 1.75 a byddwch chi’n talu dim ond yn ôl pwysau eich eitem / eitemau, gan gynnwys y pecynnau.
Os byddwch chi’n archebu 1 bag x227g, bydd hyn yn pwyso hyd at 300g ac felly codir £ 2.75 arnoch chi
Gwasasnaeth Cyffredin £
hyd at 150g 1.75
hyd at 250g 1.99
hyd at 500g 2.75
hyd at 2kg 3.50
hyd at 10kg 10
hyd at 20kg 20
Dim ond gwasanaeth cyffredin yr ydym yn ei gynnig, bydd yn cymrud rhwng 1-3 diwrnod, gan mai dyma’r ffordd fwyaf gost-effeithiol a chyfeillgar i garbon. Os bydd ei angen arnoch yn gynt, peidiwch ag oedi cysylltu â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i chi i ddosbarthu’n gynt
Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n agored ac yn dryloyw ynglŷn â chost cludo ein cynnyrch, a bod y rhain yn glir i’n cwsmeriaid. Os ydym yn amsugno cost postio a phacio, yna caiff y pris ei ystumio ac mae hyn yn mynd yn groes i werthoedd Masnach Deg. Os yr ydym yn gwybod y gwir gost, yna rydym yn gallu gwneud dewisiadau gwell i ni, yn bersonol.
Mae ein holl eitemau’n cael eu postio mewn deunyddiau ddi-blastig y gellir eu hailddefnyddio a’u ailgylchu, gan fod hyn yn bwysig iawn i ni.
Ar hyn o bryd, dim ond i’r DU yr ydym yn dosbarthu, oherwydd taliadau a ffioedd tollau ychwanegol ers 31/1/20. Os hoffech i ni anfon atoch chi neu i rhywun arall tu allan i’r D.U, cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio’ch helpu chi.