Tra’n bod ni’n angerddol iawn am gynhyrchu coffi blasus, rydyn ni hefyd yn gweithio i adeiladu perthnasoedd a chreu cymunedau. Rydym ni am greu cyfleodd i’ch cysylltu â’r ffermwyr sy’n cynhyrchu ein coffi, i ddysgu mwy am effeithiau newid hinsawdd a’r effaith ar gynhyrchu coffi. Cewch weld bod llu o bethau’n mynd ymlaen yn Jenipher’s Coffi, ac yma gallwch ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Mae’n cymryd 3 mlynedd i blanhigyn coffi dyfu digon i flodeuo a dechrau cynhyrchu coffi?
Mae ffa coffi hefyd yn hadau, ac os cânt eu plannu, gallant dyfu i ddod yn goeden goffi newydd.
Mae 5 mil o gwpanau o goffi yn cael ei hyfed pob dydd yn y DU!
Dysgwch mwy o ffeithiau diddorol, ag am gynhyrchiant coffi a bywyd ein ffermwyr gyda help fideos, erthyglau ag adnoddau arbennigol draw yn ein llyfrgell.
Beth am ddilyn ôl troed Alison yn Ynys Môn neu Annette yn Clydach? Maen nhw'n rhan o'n rhaglen goffi cymunedol, lle maen nhw'n archebu coffi i’w gael ei anfon yn uniongyrchol atynt ac yna maen nhw'n ei werthu yn eu cymuned lleol. Prynodd Annette 100 o fagiau a'u gwerthu am £1 yn fwy nag y gwnaeth hi eu prynu, gan roi'r arian ychwanegol i'w banc bwyd lleol adeg y Nadolig. Eisiau dysgu mwy? Cysylltwch.
CysylltuCymru yw Cenedl Masnach Deg cyntaf y byd – mae hynny’n dipyn o gamp. Dewch o hyd i sut y daeth hyn i fod ar wefan Cymru Masnach Deg, ag am fwy ar Fasnach Deg ewch i wefan y Sefydliad Masnach Deg.
Am fwy i wneud a sut y gallwch chi chwarae eich rhan yn nhaclo’r argyfwng hinsawdd, ac ychwanegu eich enw i alwad am fwy o newid, cymerwch olwg ar waith Climate Cymru.
Mae Maint Cymru yn rheoli’r prosiect plannu coed y mae ffermwyr Jenipher’s Coffi yn rhan ohono. I gael rhagor o wybodaeth am fanteision y prosiect hwn, ac eraill ledled y byd, ewch i’w gwefan.