Shopping Basket

Cwestiynau Cyffredin

Ble mae’r coffi wedi’i rhostio?

Mae Jenipher’s Coffi wedi’i rhostio â llaw gan Ferraris, rhostwyr coffi hynnaf Cymru. Wedi’i lleoli yn ne Cymru, mae Ferrari’s wedi bod yn rhostio coffi ers 1927. Wedi’i sefydlu gan Vittorio Ferrari, eu cenhadaeth yw lledaenu llawenydd coffi o safon.

Sut flas sydd ar y coffi?

Mae gan Jenipher’s Coffi asidedd cymhleth – gyda blasau tebyg i geirios ac oren, siocled a chnau. Mae’n rhost ysgafnach na’r mwyafrif o goffi y byddech chi’n dod o hyd iddo yn yr archfarchnad, gan adael lle i flasau naturiol ac unigryw’r coffi ddisgleirio. Mae hyn yn gwneud Jenipher’s Coffi yn flasus i’w yfed sut bynnag rydych yn ei fragu, gyda neu heb laeth. Cawsom arbenigwr i baratoi rhai canllawiau cam wrth gam ar gyfer sut i fragu gyda gwahanol ddulliau. Gweler proffil llawn y coffi.

Sut mae’r coffi yn cael ei gynhyrchu?

Mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi yn defnyddio dull o ffermio o’r enw amaeth-goedwigaeth. Yn syml, mae hyn yn golygu tyfu coed a chnydau gyda’i gilydd. Mae’r ffermwyr yn tyfu’r coffi o dan ganopïau coed brodorol, yn ogystal â choed banana. Darllenwch fwy am fanteision plannu coed.

Mae’r coffi’n cael ei gynhyrchu’n organig, gan ddefnyddio dulliau naturiol i dyfu ac amddiffyn y planhigion. Gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a basiwyd lawr y cenedlaethau, ynghyd â mewnwelediadau modern, mae’r ffermwyr yn ymdrechu i gynhyrchu’r coffi gorau posibl. Darllenwch fwy a daith y coffi, o’r ffa i’r gwpan.

Sut ddylwn i fragu’r coffi?

Mae rhost ysgafnach ar Jenipher’s Coffi na’r mwyafrif o goffi y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw yn yr archfarchnad. Mae hyn yn golygu bod y ffa wedi treulio llai o amser yn y rhostiwr, felly bydd yn ddwysach ac ychydig yn llai hydawdd na rhost tywyllach. Rydym yn argymell malu’r ffa yn fwy man nag y byddech chi fel arfer. Bydd hyn yn caniatáu i’r coffi echdynnu’n haws a rhoi mwy o flas. Bydd angen i chi wneud hyn yn enwedig os ydych chi’n defnyddio peiriant ffa i gwpan. Fel arall, gallai’r blas fod yn fwy asidig nag y dylai fod. Gweler ein canllawiau bragu am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer bragu cwpan perffaith o Jenipher’s Coffi.

Pa ystod o gynhyrchion sydd gennych chi?

Mae Jenipher’s Coffi ar gael fel ffa neu coffi wedi malu, a gellir eu prynu mewn bagiau 100g, 227g neu 1kg o’n siop ar-lein. Mae’r coffi ar gael i brynu ar ffurf di-wastraff yn Fair Dos Siopa Teg a Zero Penarth.

Beth yw cymwysterau moesegol y coffi?

Mae Jenipher’s Coffi wedi’i ardystio’n Fasnach Deg. Er mwyn cario’r marc Masnach Deg, rhaid cwrdd â nifer o safonau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth gynhyrchu a chyflenwi Jenipher’s Coffi.

Fel system ardystio, mae Masnach Deg wedi’i alinio agosaf â’n hegwyddorion. Er enghraifft, talu ffermwyr yn deg, diogelu’r amgylchedd a chydweithio â chynhyrchwyr.

Fel ardystiad Masnach Deg, mae ardystiad Organig yn golygu bod yn rhaid ardystio pob actor ar hyd y gadwyn gyflenwi. Tra bod ein coffi yn cael ei dyfu i safonau Organig, nid yw’n cario’r marc Organig oherwydd nid yw pawb yng nghadwyn gyflenwi Jenipher’s Coffi wedi’i ardystio – eto. Nid yw hyn yn golygu bod y coffi yn colli unrhyw un o’i rinweddau organig, dim ond nad oes unrhyw archwilydd annibynnol wedi rhoi sêl bendith iddo. Cyn gynted ag y byddwn ychydig yn fwy sefydledig, mae sicrhau ardystiad Organig yn uchel ar ein rhestr o bethau i wneud.

Mae cael ardystiaeth yn bwysig i ni – mae’n ein dwyn i gyfrif, ac yn dangos i chi ein bod ni’n cerdded y daith. Ond nid dyna ddiwedd ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol, mae’n fwy o arwyddbost ar ein taith. Byddwn bob amser yn ymdrechu i wneud yn well.

Mae gweithio’n uniongyrchol gyda’r ffermwyr, a gwneud penderfyniadau ar y cyd â nhw yn golygu y gallwn addasu cynlluniau i ddiwallu anghenion yr awr. Yn fwyaf diweddar, mae hynny’n golygu ailgyfeirio cymorth ariannol i gefnogi’r ffermwyr wrth iddynt fynd i’r afael â’r drydedd don o COVID-19 yn Uganda.

Beth mae Masnach Deg yn ei olygu? Sut mae o fudd i’r ffermwyr?

Nid yw’r system fasnachu byd-eang yn garedig i ffermwyr bach, fel y rhai sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi. Sefydlwyd yr ardystiad Masnach Deg i wneud masnach yn fwy teg, ac i sicrhay bywoliaeth diogel a chynaliadwy i gynhyrchwyr.

Mae gan gynhyrchwyr lais cyfartal yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch â’r cynllun ardystio Masnach Deg. Mae hyn yn bwysig iawn i ni. I’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jeipher’s Coffi, mae Masnach Deg yn golygu tâl tecach. Nod y pris Masnach Deg y mae nhw wedi ei addo, yw talu cost cynhyrchu eu cnwd yn gynaliadwy a darparu rhwyd ​​diogelwch hanfodol pan fydd prisiau’r farchnad yn gostwng.

Mae ffermwyr hefyd yn derbyn Premiwm Masnach Deg – swm ychwanegol a delir ar ben y pris Masnach Deg, y maent gyda’i gilydd yn penderfynu sut i’w wario er budd eu busnes neu eu cymuned.

Mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi wedi defnyddio’r Premiwm Masnach Deg i fuddsoddi mewn prosiectau dŵr glân ac addysg ac i brynu offer sy’n eu helpu i gynhyrchu coffi yn fwy effeithlon. Darllenwch fwy am Fasnach Deg.

Ble mae’r coffi yn cael ei gynhyrchu? Beth mae fel yno?

Cynhyrchir y coffi ar lethrau Mt Elgon, a elwir yn Masaba yn lleol; craig folcanig ddiflanedig sy’n dringo i’r cymylau dros y ffin rhwng Uganda a Kenya. Mae’n faint gwlad fach, 50 milltir o led ac yn codi i dros 3,070 metr. Mae daearegwyr yn amcangyfrif bod Mt Elgon o leiaf 24 miliwn o flynyddoedd oed. Mae’r uchder a’r pridd folcanig yn ei wneud yn le gwych i dyfu coffi blasus ond mae casglu’r holl goffi gan y miloedd o ffermwyr sy’dd yn byw ledled y mynydd yn dipyn o her.

Mae Mt Elgon yn rhan prydferth iawn o’r byd. O rannau uchaf y mynydd, gallwch weld am gannoedd o filltiroedd. Mae’r hinsawdd trofannol yn golygu bod llawer o wahanol blanhigion yn ffynnu yno, ond mae’r tirwedd cyfoethog a bywiog dan fygythiad.

Yn eistedd ar y cyhydedd, lle daeth effaith newid hinsawdd i’r amlwg gyntaf, mae’r rhanbarth yn profi newidiadau dramatig yn ei batrymau tywydd. Mae fflora a ffawna’r rhanbarth wedi addasu i ffenestr gul o dymheredd, felly gall dim ond newid bach mewn cynhesrwydd gael effaith enfawr, ac mae planhigion coffi yn hynod sensitif i’r newidiadau hyn.

Pam bod newid hinsawdd yn broblem?

Mae pob cam o dyfu coffi yn gysylltiedig â phatrymau tywydd tymhorol. Mae ffermwyr yn defnyddio’r patrymau hyn, gyda gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i lawr y cenedlaethau, er enghraifft pryd i blannu neu pryd i gynaeafu. Ond yn ddiweddar, mae’r tywydd wedi dod mor anrhagweladwy, mae’n anodd i ffermwyr wybod pryd i wneud beth.

Mae’r tywydd cyfnewidiol hefyd yn achosi niwed i’r coffi, gyda stormydd cenllysg, gormod o law neu olau haul llachar i gyd yn achosi problemau. Mae cenllysg yn niweidio’r ceirios a’r ffa y tu mewn, tra gall gormod o law ddod â phlâu a chlefydau newydd.

Mae hyn yn peryglu bywoliaethau ffermwyr, gyda cholled incwm yn effeithio ar iechyd ac addysg eu teuluoedd. Yn wahanol i Gymru, lle mae addysg a gofal iechyd yn rhad ac am ddim wrth ei dderbyn, mae’n rhaid i rieni dalu ffioedd ysgol am eu plant a thalu biliau gofal iechyd eu perthnasau yn Uganda.

Y tu hwnt i gynhyrchu coffi, mae’r tywydd anghyson yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau lleol, gyda llifogydd eithafol, sychder a mwdlithriadau yn achosi difrod i gnydau a chartrefi, gyda chanlyniadau angheuol yn aml. Mae tirlithriadau yn dod yn amlach, ac yn fwy ffyrnig. Mae tystion wedi’i disgrifio fel “y mynydd newydd gwympo”, neu “ildiodd y ddaear”.

Mae’r fideo yma gan VICE yn esbonio sut mae newid hinsawdd yn effeitiho ar gynhyrchiad coffi ledled y byd.

O beth mae eich deunydd pacio wedi’i wneud? Sut mae cael gwared arno?

Er bod y pecynnu allanol y mae eich coffi yn cyrraedd ynddo yn ddi-blastig, (os ydych chi’n archebu ar-lein neu’n gyfanwerthol), mae rhywfaint o blastig yn y bagiau coffi o hyd. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal ansawdd a ffresni’r coffi. Er bod modd ailgylchu’r bagiau hyn (yn dibynnu ar eich awdurdod lleol), mae gwaith ar y gweill i wneud y deunydd pacio mor gynaliadwy â phosibl, cyn gynted â phosibl. Mae’r coffi ar gael mewn rhai siopau ledled Cymru ar sail di-wastraff, sy’n golygu y gallwch ei brynu heb becynnu a lleihau ein heffaith ar y blaned.

Ble alla i brynu’r coffi?

Mae Jenipher’s Coffi ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein, ac mewn tri siop ledled Cymru.

  • Fair Do’s
  • Zero Penarth *
  • Splo Down *

*ar gael ar ffurf di-wastraff

A fedrai stocio’r coffi yn fy siop?

Os hoffech brynu Jenipher’s Coffi ar ffurf cyfanwerth, cysylltwch â ni neu ewch i adran stocwyr ein tudalen cymryd rhan.

A allaf brynu’r coffi mewn swmp?

Wrth gwrs! Mae manylion ar sut i ddod yn stociwr neu i ymuno â’n rhaglen goffi cymunedol ar gael yn ein hadran cymryd rhan. Os ydych chi’n chwilio am rhywbeth mwy unigryw, cysylltwch â ni.

A oes unrhyw swyddi gwag?

Bydd pob swydd wag yn cael ei phostio ar ein tudalen cymryd rhan a’i rhannu trwy ein cylchlythyr. Cofrestrwch i fod yn un o’r cyntaf i glywed am gyfleoedd newydd.

A oes unrhyw ffyrdd eraill o gymryd rhan yn y brand?

Rydyn ni’n newydd ar y sîn goffi, ac mae gennym ni gynlluniau mawr. Bydd angen i ni ddod â mwy o bobl i mewn i deulu Jenipher’s Coffi i wireddu’r cynlluniau hyn, felly cadwch lygad am gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i ddod yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch chi bob amser alw heibio i’ch siop, caffi neu fwyty lleol a rhoi un o’n cardiau post iddyn nhw, neu archebu rhai samplau a chael Jenipher’s Coffi ar werth yn lleol i chi. Gallwch hyd yn oed ddod yn gyflenwr lleol, trwy ymuno â’n rhaglen goffi cymunedol.

Beth os nad ydym yn hapus gyda’n archeb?

Er ein bod yn caru Jenipher’s Coffi, rydym yn deall na fydd pawb. Ac mae hynny’n iawn. Byddai’n ddiflas pe byddem ni i gyd yr un peth.

Er bod y ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi wir yn rhagorol (mae’r arbenigwyr wedi rhoi sgôr o 84 iddo – 8.5 / 10, os mynnwch chi), rydyn ni newydd ddechrau werthu coffi, gan weithio gydag eraill i ddarganfod y ffordd orau o wneud pethau, felly efallai y bydd gennym rai problemau bach ar brydiau. Os hoffech chi ddweud wrthym am eich profiad o Jenipher’s Coffi, da neu ddim cystal, i ymwneud â dosbarthu, y rhost, neu ein tudalen Instagram, e-bostiwch helo@jenipherscoffi.wales.

Sut fedra i gysylltu â’r tîm?

Mae Ffion ac Elen bob amser yn hapus i chi gysylltu â nhw. Gweler ein manylion cyswllt.

A oes cylchlythyr? Ble alla i gofrestru?

Daw pethau da i’r rhai sy’n cofrestru i’n cylchlythyr, gan gynnwys 10% oddi ar eich archeb gyntaf. Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.

Oes modd dilyn Jenipher’s Coffi ar gyfryngau cymdeithasol? Pa lwyfannau?

Dilynwch ni ar Instagram @jenipherscoffi, neu ar Facebook yn Jenipher’s Coffi.