Shopping Basket

Brand newydd sbon

24th Awst 2021 Erthygl

Ar ymweliad i Uganda yn 2010, ar y pryd fel Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg, cyfarfodd Elen (cyd-sylfaenydd Jenipher’s Coffi) â Jenipher, ac maen nhw wedi bod mewn cysylltiad ers hynny.

Ar yr ymweliad hwnnw, wrth ateb cwestiwn Elen ar y ffordd orau i bobl yng Nghymru gefnogi’r ffermwyr coffi ar Mt Elgon, dywedodd Jenipher wrthi ei fod yn syml – prynwch ein coffi ar delerau Masnach Deg. Yn 2020, daeth hyn yn realiti a ganed Jenipher’s Coffi.

Dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach o’r sgwrs gychwynnol honno, ac yng nghanol pandemig byd-eang, daeth y trefniadau at ei gilydd. Ffurfiodd casgliad o sefydliadau ac unigolion ymroddedig yng Nghymru ac Uganda y Bartneriaeth Coffi a Newid Hinsawdd.

Yn Uganda, mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu’r coffi yn rhan o Fenter Cydweithredol Cymunedau Amaeth-goedwigaeth Mt Elgon, neu MEACCE yn fyr. Mae cludo’r coffi o Uganda i Gymru yn cael ei uwchweld gan Etico, The Ethical Trading Company, mae’r coffi yn cael ei rostio gan Ferrari’s yn ne Cymru, a rheolwyd dechreuad y brand gan  Fair Do’s Siopa Teg CIC.

Taith hir ac anodd

Nid tasg hawdd yw casglu coffi o lethrau Mt Elgon o dan yr amgylchiadau gorau. Mae ffermwyr yn tyfu coffi hyd at 2,400 metr uwch lefel y môr ar y mynydd folcanig hwn. Mae ffyrdd yn aml yn cael eu herydu ac mae’n anodd cael y ffa i’r gwahanol orsafoedd didoli ar draws y llethrau i’w prosesu ar yr adegau gorau. Ychwanegwch y mesurau cloi o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, ac mae’n dod yn weithrediad fwy cymhleth byth.

Mae cynhyrchu coffi o safon yn gêm sy’n sensitif i amser. Mae coffi yn anianol ac yn agored i niwed. Gall pob cam o dyfu i fragu effeithio ar flas cywrain y coffi. Gall oedi o unrhyw fath ymyrryd â blas cain a chymhleth y ffa y mae ffermwyr yn gweithio mor ofalus i’w cynhyrchu dros fisoedd a blynyddoedd. Mae’r ffa hyn yn cynrychioli’r rhan fwyaf o incwm y ffermwyr am y flwyddyn. Arian sydd ei angen i gefnogi addysg eu plant ac amddiffyn iechyd eu teulu.

Fel llawer o gnydau a dyfir ledled y byd, mae’r ffermwyr yn wynebu prisiau cyfnewidiol ac anghydbwysedd pŵer annheg. Yn ychwanegol at hyn, mae patrymau tywydd eithafol yn cael effaith mawr ar ei gwaith. Mae ffermwyr fel y rhai ar lethrau Mt Elgon yn wynebu realiti yr argyfwng hinsawdd. Yn ôl yn ystod haf 2020, roedd ffermwyr MEACCE felly yn arbennig o awyddus i weld y coffi yn cael ei bacio a’i gludo i Gymru’n ddiogel ar ôl blwyddyn neu ddwy anodd.

Brand newydd gan hen ffrindiau

Fel Cenedl Masnach Deg cyntaf y byd, mae pobl Cymru wedi cefnogi telerau masnach tecach ar gyfer ffermwyr ar draws y byd ers amser, diolch i’n ffrindiau Cymru Masnach Deg. Diolch i waith rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, mae yna lawer o gysylltiadau dwfn rhwng Cymru ac Uganda.

Mae ffermwyr, fel Jenipher, is-gadeirydd y cydweithredfa wedi cael eu croesawu gan fusnesau, ysgolion a chymunedau ar draws Cymru ers blynyddoedd, gan helpu i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r materion sy’n eu hwynebu nhw a’u cymunedau.

Mae newidiadau mewn patrymau tywydd, ynghyd â datgoedwigo’n lleol, sydd yn cael eu yrru gan dlodi, yn achosi i fwdlithriadau a llifogydd ddod yn fwy ac yn fwy cyffredin, gydag effeithiau dinistriol ac angheuol yn aml i gymunedau ar ac o amgylch Mt Elgon.

Wrth brynu Jenipher’s Coffi, rydych chi’n chwarae eich rôl i greu byd tecach. Mae’r brand yn sicrhau bod y ffermwyr coffi yn derbyn pris teg am eu coffi ac yn cefnogi meithrin gallu’r ffermwyr i weithio mewn ffordd gyfeillgar i natur ac i weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd presennol, gyda ffocws penodol ar dyfu arweinyddiaeth menywod a sgiliau pobl ifanc.

Edrych i’r dyfodol

Mae Jenipher’s Coffi yn frand newydd, ac mae gennym lawer i’w ddysgu. Mae hyn yn golygu efallai y bydd taith anodd o’n blaenau, gan ein bod wedi ymrwymo i’n gwerthoedd ac nad ydym am eu cyfaddawdu. Os ydych chi’n caru coffi ac eisiau sicrhau ein bod ni’n amddiffyn y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar ein taith.

Y newyddion diweddara

Daw pethau da i'r rhai sy'n cofrestru i'n cylchlythyr, gan gynnwys newyddion unigryw a chynigion arbennig.

Daliwch i ddarllen

Gweld popeth
Erthygl

Popo lan yn Mhorthcawl

Adnodd

Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc

Cyfle i bobl ifanc ymuno â cymuned Jenipher’s Coffi, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.

Erthygl

Ffermwraig. Arweinwraig. Brwydwraig.

Darllenwch araith Jenipher o ddiwrnod rhywedd COP26, sy’n arddangos y pŵer sydd gan Masnach Deg i rymuso menywod.