Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc
Ydych chi’n gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid? Eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am fusnes cyfrifol?
Rydym ni yn Jenipher’s Coffi yn awyddus i roi cyfle i bobl ifanc ymuno â’n cymuned, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a chael cyfle i wneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.
Trwy ddysgu am Jenipher a’r 3500+ o ffermwyr sy’n tyfu coffi o ansawdd uchel ar Fynydd Elgon, yn Uganda, gall pobl ifanc ddysgu am sut mae masnach yn gweithio, pŵer Masnach Deg ac effaith newid hinsawdd ar ffermwyr y byd. Gallant ddysgu popeth am goffi – o ffeuen i gwpan, yn uniongyrchol oddi wrth Jenipher ei hun, a sut i weithredu busnes sydd yn ystyried elw, pobl a’r blaned.
Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy ac i lawrlwytho ein hadnodd diweddaraf.