Shopping Basket

Popo lan yn Mhorthcawl

3rd Mehefin 2023 Erthygl

Wrth i ni groesawu misoedd yr haf, mae’r tîm yn Jenipher’s Coffi yn dilyn y dorf – rydym wedi teithio i lan y môr. Ni fyddwn yn adeiladu castelli tywod nac yn syrffio – ond byddwn yn helpu i bweru’r hwyl o’n caffi pop-up newydd ym Mhorthcawl!

Rydym yn mynd a’n anglrdd am goffi da, sy’n gwneud da i dref hardd Porthcawl am brofiad caffi pop-up arbennig! Wedi’i leoli prin tafliad carreg o’r traeth, bydd ein caffi pop-up yn lle i stopio a gorffwys am ychydig, neu i gael paned i fynd. 1 Adeiladau Lewis fydd ein cartref newydd.

Yn galonog i Jenipher’s Coffi ydi’n hymrwymiad i’n ffermwyr coffi. Rydym yn fewnforwyr coffi sydd y hoff o addysgu. Bydd y caffi pop-up yn gartref newydd i ni, ein pencadlys newydd os mynnwch. Ac roeddem yn meddwl, pam dim agor ein drysau a chroesawu ein cymuned, yfwyr coffi a phawb sy’n chwilfrydig i ymuno â ni yn ein lle newydd. P’un a ydych am nol ychydig o goffi ar gyfer eich cartref, eisiau cael paned i fynd, neu eisiau dysgu ychydig mwy am Jenipher’s Coffi; rhannu adborth, dod i nabod y tîm, neu ofyn am ein ffermwyr.

Ymunwch â ni ym Mhorthcawl am baned o goffi sy’n gwneud mwy na chynhesu eich dwylo yn unig. Ymgysylltwch â’n taith coffi, deall o ble mae’n dod, a phwy sy’n elwa. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu, i rannu straeon dros baned flasus – a chacen gri – neu ddau efallai.

Oriau agor o Fehefin 24 – Mehefin 30

Dydd Sadwrn: 10 – 12
Dydd Sul: Wedi cau
Dydd Llun – Gwener: 10 – 2

Daliwch i ddarllen

Gweld popeth
Adnodd

Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc

Cyfle i bobl ifanc ymuno â cymuned Jenipher’s Coffi, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.

Erthygl

Ffermwraig. Arweinwraig. Brwydwraig.

Darllenwch araith Jenipher o ddiwrnod rhywedd COP26, sy’n arddangos y pŵer sydd gan Masnach Deg i rymuso menywod.

Erthygl

Jenipher’s Coffi yn COP26

Ymunwch â Jenipher’s Coffi yn COP26 i drafod plannu coed, Masnach Deg a sut mae ffermwyr yn dal llawer o’r atebion i’r cwestiwn o sut i daclo newid hinsawdd.