Paned perffaith
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/PXL_20210527_094003874.PORTRAIT-01.jpeg)
Mae llawer o waith yn mynd i mewn i greu paned perffaith. O lafur y ffermwyr i gael y rhost yn iawn. Yn ein barn ni, byddai’n drueni peidio â gwneud y gorau o flas hyfryd Jenipher’s Coffi yn y cam olaf. Yn enwedig gan y gall dim ond ychydig o newidiadau syml wneud gwahaniaeth enfawr.
Am y rheswm yma, gwnaethom ofyn arbenigwr ar goffi, Esther Hope i ddatblygu canllawiau bragu hawdd i’w defnyddio i ni. Felly p’un a ydych chi’n caru latte llaethog wedi’i wneud â pheiriant espresso, bragu gyda cafetiere, neu bach o newid o bryd i bryd, bydd y canllawiau hyn yn dod â’r gorau allan o’ch coffi, fodd bynnag rydych chi’n hoffi ei yfed.
V60
- Gwlychwch y papur hidlo
- Malwch y coffi i faint malu canolig – 25g
- Lefelwch y coffi fel bod ganddo dop gwastad
- Berwch y tegell i 94 gradd, neu ychydig cyn y berwbwynt
- Ychwanegwch 100ml o ddŵr i’r coffi mewn patrwm cylchol gan sicrhau bod yr holl goffi wedi’u orchuddio
- Gadewch am 30 eiliad
- Trowch i sicrhau bod yr holl goffi wedi’u orchuddio â dŵr
- Yna parhewch i ychwanegu 50g mewn patrwm cylchol bob rhyw 30 eiliad, a rhoi hyd at 400ml o ddŵr mewn 2 funud 30
- Dylai’r dŵr orffen treiddio mewn 3 munud i 3 munud 30
- Trowch a mwynhewch!
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Mae Jenipher's Coffi ar ei orau wrth ei fragu gyda V60, dim llaeth. Mae’n cynhyrchu cwpan glanach gyda blas cymhleth iawn.
Aeropress
(Dull gwrthdro/ wyneb i waered)
- Gwlychwch y papur hidlo a chynheswch yr Aeropress trwy ei lenwi â dŵr poeth
- Berwch y tegell i 94 gradd, neu ychydig cyn y berwbwynt
- Malwch 13.5g o goffi nes bod yn faint malu cyfagos i espresso
- Ychwanegwch y coffi
- Ychwanegwch 50ml o ddŵr a’i droi i sicrhau bod yr holl goffi yn wlyb, gadewch am 30 eiliad
- Yna ychwanegwch y 150ml sy’n weddill i gyrraedd cyfanswm o 200ml o ddŵr
- Rhowch yr hidlydd ar ei ben a’i adael tan 2 funud 30
- Rhowch y cwpan ar ben yr Aeropress gwrthdro ar gyfer glendid, fflipiwch a gwasgwch i lawr o fewn 30 eiliad nes i chi glywed sŵn hisian
- Mae’n barod i yfed!
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Mae bragu fel hyn yn rhoi blas coffi mwy llawn, sy'n blasu fel snickers mewn cwpan - siocled llaeth a chnau. Blasus! Ar ei orau gyda neu heb laeth wedi’w fragu gyda Aeropress.
Cafetiere
- Cynheswch y cafetiere gyda dŵr poeth
- Berwch y tegell i 94 gradd, neu ychydig cyn berwi
- Malwch 34g o goffi i faint bras
- Ychwanegwch goffi i’r cafetiere
- Ychwanegwch 100ml o ddŵr, ei droi a’i adael am 30 eiliad
- Ychwanegwch hyd at 500ml o ddŵr a’i droi
- Gadewch am 4 munud, plymiwch y cafetiere ychydig fel bod yr holl goffi o dan y dŵr
- Ar ôl 4 munud tynnwch y plymiwr a thynnu unrhyw crema ar ei ben i sicrhau cwpan glanach
- PEIDIWCH THROI eto
- Plymiwch yn araf ond gadewch gwpl o cm o’r gwaelod i gael cwpan glanach
- Arllwyswch a mwynhewch!
Cyfanswm amser: 5 mins
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Gwych gyda neu heb laeth. Heb laeth, mae ganddo nodau o siocled tywyll, cnau a rhai ffrwythau tywyll, gyda llaeth mae'n blasu fel bar siocled ffrwythau a chnau. Gallwch hefyd ychwanegu siwgr ond yn bendant nid yw'n angenrheidiol.
Hidlydd Metal/ Ailddefnyddiadwy
(Yn debyg i’r v60 ond wedi’w falu’n fwy mân. Gall y dŵr basio trwy’r hidlydd metal yn gyflym felly mae angen i ni arafu llif y dŵr trwy gael maint malu mwy mân a gyda ychydig yn fwy o goffi.)
- Malwch 35g o goffi i faint malu mân-ganolig
- Lefelwch y coffi yn yr hidlydd fel ei fod yn wastad
- Berwch y tegell i 94 gradd, neu ychydig cyn y berwbwynt
- Ychwanegwch 100ml o ddŵr i’r coffi mewn patrwm cylchol gan sicrhau bod yr holl goffi wedi’i orchuddio
- Gadewch am 30 eiliad
- Trowch i sicrhau bod yr holl goffi wedi’i orchuddio â dŵr
- Yna parhewch i ychwanegu 50g mewn patrwm cylchol bob rhyw 30 eiliad, a rhoi hyd at 500ml o ddŵr mewn 4 munud.
- Dylai dŵr orffen treiddio trwyddo mewn 4 munud 30.
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Mae bragu gyda’r dull yma yn caniatáu mwy o ‘ronynnau’ drwodd felly mae’n flas llai ‘glân’ ond gyda chorff llawnach sy’n wych i gyd-fynd â llaeth neu ar gyfer blas mwy gweadog a chytbwys. Wrth fragu fel hyn rydych chi'n cael coffi cytbwys iawn gydag asidedd canfyddedig is a mwy o felyster tebyg i'r Aeropress - fe wnes i ddarganfod ei fod yn fy atgoffa o far siocled ffrwythau a chnau a cheirios.
Chemex
Yn debyg i’r v60 ond gyda phapur hidlo gwahanol a chynhwysedd mwy.
- Gwlychwch y papur hidlo
- Malwch 30g o goffi i faint malu canolig
- Lefelwch y coffi fel ei fod yn wastad
- Berwch y tegell i 94 gradd, neu ychydig cyn y berwbwynt
- Ychwanegwch 100ml o ddŵr i’r coffi mewn patrw cylchol gan sicrhau bod yr holl goffi wedi’i gorchuddio
- Gadewch am 30 eiliad
- Trowch i sicrhau bod yr holl goffi wedi’i orchuddio â dŵr
- Yna parhewch i ychwanegu 50g mewn patrwm cylchol bob rhyw 30 eiliad, a rhoi hyd at 500ml o ddŵr mewn 3 munud.
- Dylai’r dŵr orffen traeddio mewn 4 munud
- Trowch a mwynhewch!
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
I’w fwynhau orau yn ddu gyda’r dull yma, dim llaeth. Mae papur hidlo’r Chemex yn rhoi cwpan hynod o lân ac yn tynnu sylw at yr asidedd yn y cwpan. Mae hyn yn rhoi naws i'r siocled a'r ceirios ac asidedd oren citrig. Fel y canlyniadau o'r v60, mae'n cynnig blas cymleth.
Batch brew/Peiriant hildo coffi
- Malwch y coffi i faint malu canolig
- 70g fesul pob 1 litr o ddŵr
- Rhowch y papur hidlo i mewn, ynghyd ag 1 litr o ddŵr (oni bai ei fod wedi plymio i’r pibellau dŵr)
- Ychwanegwch 70g o goffi ar ben y papur hidlo
- Yna pwyswch y botwm i ddechrau bragu
- Dylai gymryd 4-6 munud i fragu
Os yn gyflymach, malwch yn fwy man.
Os yn arafach, malwch yn fwy bras.
Ar gyfer peiriannau hidlo, mae’n well bragu’r coffi yn rhy gryf a gwanhau’r coffi â dŵr poeth i’w flasu. Os ydych chi’n bragu’r coffi yn rhy wan bydd yn rhaid i chi ail-drio gyda maint malu fwy mân.
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Mae'r dull bragu hwn yn blasu'n wych gyda neu heb laeth ac mae'n dda ar gyfer swyddfeydd a chyfarfodydd. Mae'n rhoi corff hufennog llawn, melys gyda thonau o siocled ac asidedd citrig oren ysgafn, gyda neu heb laeth.
Espresso
Rysáit:
- 18g yn y fasged portafilter
- 36g o goffi yn y cwpan
- Rhwng 20-30 eiliad (27 eiliad orau)
Dull:
- Rhowch 18g o goffi mewn i’r portafilter
- Rhowch y cwpan ar y clorian a gwasgu ‘tare’ i sero
- Paratowch yr amserydd
- Pan fyddwch chi’n dechrau echdynnu espresso, dechreuwch yr amserydd.
- Stopiwch echdynnu espresso pa rydych yn taro 36g o goffi yn y cwpan (neu ychydig cyn hynny)
Os yw’r coffi yn cymryd llai na 25 eiliad i arllwys, yna mae angen i chi wneud y maint malu YN fwy MAN i arafu llif y dŵr trwy’r coffi.
Os yw’r coffi yn cymryd mwy na 30 eiliad i arllwys, yna mae angen i chi wneud y maint malu yn fwy BRAS i gyflymu llif y dŵr trwy’r coffi.
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Y blas gorau a ddarganfyddais oedd drwy addasu maint malu i wneud i'r coffi arllwys mewn 27 eiliad. Rhoddodd y dull yma espresso blasus i mi gyda blas siocled llaethog, ceirios, oren a chnau cyll. Pan yn creu ‘flat white’ gyda llaeth gweadog, mi wnes i flasu’r bar siocled llaethog gyda ffrwythau a chnau, gyda gwead llyfn a oedd mor hawdd i’w yfed- coffi hyfryd y byddai unrhyw un yn ei fwynhau.
Pot Moka
Mae cymarebau bragu pot Moka wedi’u gosod ymlaen llaw yn y pot Moka.
- Llenwch y fasged hidlo gyda ffa coffi, yna ychwanegwch 10g a’i falu i faint malu mân
- Llenwch yr adran berwi hyd at y llinell lenwi â dŵr, neu gwaelod y falf liniaru â dŵr wedi’i ferwi
- Peidiwch â phacio’r coffi i’r fasged hidlo. Os ydych chi’n cywasgu’r gwely coffi (fel y byddech chi wrth wneud coffi mewn portafilter) efallai y byddwch chi’n cael amser bragu hir iawn ac yn blasu coffi wedi’i losgi
- Rhowch y fasged yn y bragwr (ni ddylai fod unrhyw ddŵr yn llifo i mewn – os oes, rydych chi wedi rhoi gormod o ddŵr i mewn)
- Sgriwiwch y siambr uchaf at y gwaelod yn dynn, (os ydych chi’n defnyddio dŵr poeth, defnyddiwch dywel fel nad ydych chi’n llosgi’ch hun)
- Rhowch y pot Moka wedi’i lwytho ar y stôf
- Yn dibynnu ar dymheredd y dŵr, gall gymryd ychydig funudau i goffi ddechrau bragu
- Gadewch y caead ar agor a gwyliwch am goffi’n dechrau dod i fyny o’r gwaelod. Rydych chi am iddo ddod allan mewn lluwch araf – nid ffrwydrad.
- Unwaith y bydd y coffi yn dechrau llifo, gostyngwch y gwres
- O’r amser y mae’r coffi yn dechrau llifo, dylai gymryd tua munud i’r cylch bragu ei gwblhau. Peidiwch â gadael iddo fynd ymlaen yn llawer hirach oherwydd bydd yn llosgi
- Tynnwch y coffi o’r pot Moka cyn gynted ag y bydd wedi gorffen bragu er mwyn sicrhau’r blas gorau posibl
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Os yw'r coffi yn blasu'n chwerw, malwch y coffi’n fwy bras. Os yw'r coffi yn blasu'n asidig, malwch yn fwy man. Wedi llosgi? Tynnwch y pot Moka oddi ar y gwres yn gynt ag arlwysch y goffi ar unwaith o'r pot. Tenau? Llenwch yr adran berwi i'w gapasiti a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio dŵr poeth.
Ffa i’r gwpan
Mae’r rysáit yn dibynnu ar y peiriant, ond yn gyffredinol, mae rhost y coffi yma yn ysgafnach na mwyafrif y coffi poblogaidd a geir mewn archfarchnadoedd sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer peiriannau ffa i’r gwpan. Mae rhostiau tywyll yn llawer mwy hydawdd na rhostiau ysgafnach. Ar gyfer y coffi penodol hwn, bydd angen i chi addasu’ch malwr i dorri’n fwy man (dilynwch gyfarwyddiadau i’ch peiriant wneud hyn).
Ond rydych chi eisiau i’ch coffi gael ei arllwys mewn 20-30 eiliad.
Dylai’r holl gymarebau bragu ar gyfer peiriannau ffa i’r gwpan espresso fod yn 1:2; (12-16g i mewn) : (25-32g allan).
Os yw’r coffi yn cymryd llai na 20 eiliad i arllwys, yna mae angen i chi wneud y maint malu YN fwy MAN i arafu llif y dŵr trwy’r coffi.
Os yw’r coffi yn cymryd mwy na 30 eiliad i arllwys, yna mae angen i chi wneud y maint malu yn fwy BRAS i gyflymu llif y dŵr trwy’r coffi.
![](https://jenipherscoffi.wales/wp-content/uploads/2021/08/Untitled-design-22-150x150.png)
Tip Esther
Rhoddodd y dull yma espresso blasus i mi gyda blas siocled llaethog, ceirios, oren a chnau cyll. Pan yn creu ‘flat white’ gyda llaeth gweadog, mi wnes i flasu’r bar siocled llaethog gyda ffrwythau a chnau, gyda gwead llyfn a oedd mor hawdd i’w yfed- coffi hyfryd y byddai unrhyw un yn ei fwynhau.