Jenipher’s Coffi yn COP26
Bydd Jenipher’s Coffi yn COP26, ac rydyn ni’n gyffrous i rannu y bydd Jenipher yn ymuno â ni yn Glasgow. Dydd Iau, bydd Jenipher yn annerch cynrychiolwyr yn y Parth Gwyrdd mewn digwyddiad a fydd hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar-lein. Roeddem eisiau estyn gwahoddiad i chi.
Yn ymuno â Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Elen Jones, Cyd-sylfaenydd Jenipher’s Coffi, Albert Tucker o’r Ethical Trading Company a Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, bydd Jenipher yn rhannu sut mae newid hinsawdd yn effeithio arni hi a’i chyd-ffermwyr, ag arddangos y rôl hanfodol y mae talu ffermwyr yn deg yn chwarae wrth fynd ati i daclo’r argyfwng hinsawdd.
Ymunwch â ni ddydd Iau, Tachwedd 11 rhwng 11.30yb – 12.30yp.
Codi lleisiau ffermwyr
Tra yn Glasgow, bydd Jenipher yn siarad mewn sesiynau eraill yn COP26, yn ogystal â digwyddiadau ar ffin y gynhadledd. Dyma gipowlg cyflym:
Dydd Mawrth, Tachwedd 9, 5.30yh – 7.00yh
Not Just Carbon – the Many Benefits of Planting Trees
Bydd Jenipher yn ymuno â siaradwyr o Gymru a Namibia i drafod aml-fuddion plannu coed.
Dydd Mercher, Tachwedd 10, 4.00yh – 5.30yh
Little Voices Vs Big Heads
Bydd Jenipher yn ymuno â chynrychiolwyr masnach deg o bob cwr o’r byd i drafod y cysylltiad rhwng egwyddorion masnach deg, ag arferion a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Dydd Gwener, Tachwedd 12, 9.30yb – 10.30yb
Climate, in the Visceral Sense. An Ongoing Story in Three Acts
Bydd Jenipher yn cymryd rhan yn elfen llyfrgell ddynol yr ymateb diwylliannol yma i’r argyfwng hinsawdd.
Gobeithio y dewch chi o hyd i ddigwyddiad sy’n eich diddordi a’ch bod chi’n medru ymuno â ni i drafod sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.