Shopping Basket

Hau hadau ein dyfodol

24th Awst 2021 Erthygl

Mae pob cam o dyfu coffi yn gysylltiedig â phatrymau tywydd tymhorol. Mae ffermwyr yn defnyddio’r patrymau hyn, gyda gwybodaeth sydd yn cael ei drosglwyddo i lawr y cenedlaethau i wybod pryd i blannu neu gynaeafu er enghraifft, yn yr un modd â ffermwyr yng Nghymru. Ond yn ddiweddar, mae’r tywydd wedi dod mor anrhagweladwy, mae’n anodd i ffermwyr wybod pryd i wneud beth.

Mae’r tywydd cyfnewidiol hefyd yn achosi difrod i’r pridd, gyda mwdlithriadau’n dod yn amlach ac yn fwy ffyrnig, a ddisgrifir fel “y ddaear yn ildio”, ac mae’r coffi hefyd yn agored i niwed, gyda chenllysg neu ormod o heulwen i gyd yn achosi problemau. Gall genllysg niweidio’r ceirios a’r ffa sy’n tyfu tu mewn; gall gormod o law ddod â phlâu a chlefydau newydd. Mae hyn yn peryglu bywoliaethau ffermwyr, gyda cholled incwm yn effeithio ar iechyd ac addysg eu teuluoedd.

Plannu coed a choffi

Ers blynyddoedd bellach, mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi wedi bod yn defnyddio amaeth-goedwigaeth, dull o reoli tir lle mae coed neu lwyni yn cael eu plannu o amgylch neu ymhlith cnydau neu dir pori. Er enghraifft, mae coed coffi yn cael eu plannu ochr yn ochr â choed banana a choed mwy, sydd i gyd yn dod â buddion. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru o’r enw Rhaglen Coed Mbale, sy’n cael ei rhedeg gan Maint Cymru wedi bod yn cefnogi cymunedau ar ac o amgylch Mt Elgon gyda phlannu coed, gyda’r nod o blannu 25,000,000 o goed erbyn 2025.

Nod y rhaglen yw codi ymwybyddiaeth o fanteision plannu coed a chefnogi cymunedau i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd. Mae yna lawer o feithrinfeydd lle mae eginblanhigion yn cael eu meithrin gyntaf, cyn cael eu dosbarthu’n lleol i ffermwyr, ysgolion, busnesau ac unigolion. I ffermwyr coffi, mae nifer o fuddion i blannu amrywiaeth o goed.

Dyma Nimrod gyda mwy am y prosiect a’i fanteision…

Tra bod y ffocws ar blannu coed tymor hir, mae coed a llwyni tymor byr fel Calliandra a Sesbania yn cael eu plannu hefyd. Gellir cynaeafu’r rhain ar gyfer coed tân neu borthiant, gan ganiatáu i’r coed tymor hir sefydlu a thyfu i ddarparu buddion amgylcheddol a helpu sefydlogi’r pridd.

Beth yw manteision y gwahanol goed sy’n cael eu plannu?

Mae Grevillea Robusta yn goeden fythwyrdd sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n gallu gwrthsefyll sychder reit dda. Mae gan Grevillea wreiddiau dwfn sy’n golygu nad yw’n cystadlu am ddŵr, maeth na golau haul gyda’r cnydau o’i amgylch. Gellir defnyddio ei bren i wneud dodrefn a ffensys.

Mae’r Maesposis Emini neu’r Umbrella Tree yn goeden arall sy’n tyfu’n gyflym, a all fyw am 200 mlynedd! Gellir defnyddio ei ddail fel porthiant ar gyfer anifeiliaid, fel gwartheg, ac mae’r coed yn darparu cysgod rhagorol ar gyfer coed coffi.

Mae coed ffrwythau yn tyfu’n gyflym ac yn darparu ffrwythau a maeth. Gallant hefyd ddarparu incwm os cânt eu gwerthu. Dyma Jenipher i egluro ychydig mwy…

Mae’r coed sy’n cael eu plannu yn dod â llawer o fuddion, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o fwyd, tanwydd a lloches, ynghyd â gwell incwm, gan leddfu tlodi. Maent hefyd yn amddiffyn cymunedau lleol rhag effeithiau erydiad pridd a achosir gan ddatgoedwigo, a all arwain at fwdlithriadau marwol a chynorthwyo gyda lliniaru newid hinsawdd. Ar lefel byd-eang, bydd y miliynau hyn o goed yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy amsugno llawer iawn o garbon.

Ar gyfer tyfu coffi, mae plannu coed yn helpu i: gysgodi’r coffi, amddiffyn y coffi rhag stormydd cenllysg, cyfoethogi’r pridd, gwella ansawdd y coffi a chynyddu cynhyrchiant (mae ymchwil wedi dangos bod cynhrychiant wedi tyfu hyd at 150%). Trwy ddewis Jenipher’s Coffi, rydych chi’n cefnogi ffermwyr i fynd i’r afael â datgoedwigo a newid  hinsawdd, a chynhyrchu coffi o ansawdd sy’n cefnogi eu teuluoedd a’u cymuned.

Daliwch i ddarllen

Gweld popeth
Erthygl

Popo lan yn Mhorthcawl

Adnodd

Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc

Cyfle i bobl ifanc ymuno â cymuned Jenipher’s Coffi, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.

Erthygl

Ffermwraig. Arweinwraig. Brwydwraig.

Darllenwch araith Jenipher o ddiwrnod rhywedd COP26, sy’n arddangos y pŵer sydd gan Masnach Deg i rymuso menywod.