Gweithio gyda’n gilydd
Byddwch chi’n clywed ni’n siarad yn aml am rôl Jenipher fel Is-gadeirydd Menter Gydweithredol Cymunedau Amaeth-goedwigaeth Mt Elgon neu MEACCE yn fyr, ond beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o, ac arwain cydweithredfa?
Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio gwreiddiau cydweithfeydd a pam fod gweithio ar y cyd yn allweddol i gynhyrchu coffi o ansawdd uchel, tra hefyd yn cynnal lles ffermwyr a gwarchod yr amgylchedd.
Yn gyntaf oll, beth yw cydweithredfa?
Mae’r Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol yn diffinio cydweithfeydd fel “mentrau sy’n canolbwyntio ar bobl sy’n eiddo, yn cael eu rheoli a’u rhedeg gan ac er mwyn i’w haelodau wireddu eu hanghenion a’u dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin.” Hynny yw, mae cydweithredfa yn cael ei greu gan bobl sydd ag angen penodol ac sy’n barod i ddod ynghyd i weithredu a threfnu cwmni a fydd yn diwallu’r angen hwnnw.
Y deg gwerth cydweithredol yw:
- Gofalu am eraill
- Democratiaeth
- Ecwiti
- Cydraddoldeb
- Gonestrwydd
- Bod yn agored
- Hunangymorth
- Hunan-gyfrifoldeb
- Undod
- Cyfrifoldeb cymdeithasol
O ble ddaeth y syniad o gydweithredfa?
Mae gan gydweithfeydd wreiddiau yng nghanolbarth Cymru. Ganed Robert Owen, gwneuthurwr tecstilau yn y Drenewydd. Roedd Owen yn ddyn busnes llwyddiannus a sefydlodd gymuned fodel o amgylch ei felin gotwm rhwng 1800-20. Talodd gyflogau uwch am oriau byrrach na’i gystadleuwyr, darparodd dai ac addysg i’w weithwyr, a bu dal i wneud elw. Cyfeirir ato’n aml fel ‘Tad y Mudiad Cydweithredol’. Yn ddiweddarach, yn yr 1840au, yn Rochdale, ar y pryd yn ganolfan diwydiannol, roedd gweithwyr melin yn streicio mewn ymateb i gyflogau’n gostwng ag amodau gwaith gwael. Dechreuodd 28 o wehyddion, a ysbrydolwyd yn rhannol gan syniadau Owen, y cydweithredfa lwyddiannus gyntaf, o’r enw’r Equitable Pioneers of Rochdale.
Heddiw, cydweithredfa mwyaf y DU yw The Co-operative (Co-op), sydd hefyd yn un o gydweithredfa defnyddwyr mwyaf yn y byd – mae’n eiddo i filiynau o aelodau. Y pumed manwerthwr mwyaf y DU, ac yn cyflogi bron i 70,000 o bobl, mae’r Co-op hefyd yn cael ei adnabod am ei nodau cymdeithasol a’i raglenni cymunedol. Mae gan y Co-op hanes o fasnachu’n deg ers 1844, heddiw’n werthwr mwyaf o gynhyrchion Masnach Deg yn y DU. Rydym yn argymell yn fawr eu hamrywiaeth o winoedd Masnach Deg.
Cydweithfeydd a Masnach Deg
Mae gwneud penderfyniadau a pherchnogaeth ar y cyd yn egwyddorion canolog mewn cydweithfeydd ardystiedig Masnach Deg. Mae gan bob aelod lais a phleidlais ym mhroses gwneud penderfyniadau’r sefydliad. Mae’r aelodau hefyd yn penderfynu gyda’i gilydd sut i ddefnyddio’r Premiwm Masnach Deg – y swm ychwanegol o arian a delir ar ben y pris sefydlog.
Mae hyn yn galluogi ffermwyr i fuddsoddi mewn gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion a hybu eu hincwm a’u cynhyrchiant. Canfu astudiaeth i effaith Masnach Deg dros bum mlynedd fod Masnach Deg yn cyfrannu at fwy o urddas, hyder a dewis i gynhyrchwyr a bod cyfranogiad ffermwyr wrth wneud penderfyniadau democrataidd yn chwarae rhan ganolog yn hyn. Canfu hefyd fod Masnach Deg yn cefnogi ffermwyr i sicrhau mwy o sefydlogrwydd, yn enwedig ar adegau o argyfwng.
Beth yw hanes cydweithfeydd yn Uganda?
Yn Uganda, mae cydweithfeydd wedi bod trwy daith mwy cymhleth. Fe’i cyflwynwyd gyntaf gan y Prydeinwyr ym 1913. Bryd hynny, fe’u gwelwyd fel ffordd o drefnu amaethyddiaeth a chanoli marchnata cynhyrchion allweddol fel cotwm a choffi. Ar ôl annibyniaeth ym 1962, daethant yn offerynnau’r wladwriaeth.
Erbyn heddiw, mae cydweithfeydd yn cael eu hystyried yn wirioneddol annibynnol a gallant gystadlu ar eu telerau eu hunain. Mae ganddyn nhw gyfle i ddatblygu gyda diddordeb eu haelodau fel eu nod canolog, a’r gallu i wneud cyfraniad arwyddocaol i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol. Am ddegawdau, mae ffermwyr ar lethrau Mt Elgon, sydd yn ffermio ychydig erwau o dir yr un, wedi buddianu o’r pŵer o weithio ar y cyd i ennill troedle yn y farchnad, ac i gael mynediad at rwydweithiau gwybodaeth, hyfforddiant a chyllid.
Sut olwg sydd ar gydweithredfa MEACCE heddiw?
Mae 11 o gydweithfeydd cynradd yn berchen ar gydweithredfa MEACCE, gydag aelodaeth gyfunol o 3,664 o ffermwyr. Mae gan y gydweithredfa broses o wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar gyfrifoldeb ar y cyd am bob gweithred. Mae gan bob aelod lais a phleidlais yn y broses hon. Fel cydweithredfa Masnach Deg, mae aelodau hefyd yn penderfynu gyda’u gilydd sut i ddefnyddio’r Premiwm Masnach Deg. Mae’r ffermwyr eu hunain yn penderfynu gyda’i gilydd sut i’w wario. Mae hyn yn galluogi ffermwyr i fuddsoddi mewn gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion a hybu eu hincwm a’u cynhyrchiant. Mae MEACCE yn gweithredu gyda’r weledigaeth o ‘wella cynhyrchiant o fewn terfynau cynaliadwy’.
Mae aelodau MEACCE yn penodi cynulliad cyffredinol o bum aelod bob dwy flynedd, sydd yn cael eu ymddirio ynddynt i ddarparu arweinyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae Jenipher yn un o’r pum aelod hynny ac mae ganddi swydd yr Is-gadeirydd. Er bod cydweithfeydd yn gynhwysol yn eu natur, nid yw strwythurau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n hawdd i fenywod gyrraedd lefelau arweinyddiaeth o’r fath.
Rôl Jenipher
Yn ei rôl, mae Jenipher yn gosod cynsail bod menywod yn arweinwyr dawnus, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn cefnogi ei chymuned i weithredu dros ddyfodol cynaliadwy. Trwy ei harweiniaeth tosturiol, mae Jenipher yn dangos bod adeiladu cytundeb a gweithio tuag at nod cyffredin yn ffordd effeithlon a chynaliadwy o wneud busnes; gan ddod â ffyniant mwy teg a hafal i’r gymuned gyfan.
"Mae bod yn rhan o gydweithredfa yn arbennig iawn gan ein bod yn gweithio mor agos gyda’n gilydd, fel teulu. Fel cadeirydd benywaidd cyntaf fy nghydweithfa gynradd (Bunabude), ac is-gadeirydd y gydweithredfa uwchradd (MEACCE), rwy’n sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed a’n bod yn siapio’r sefydliad er budd pawb ”
Jenipher