Shopping Basket

Cwrdd â’r ffermwyr: Jenipher

26th Awst 2021 Cwrdd â'r Ffermwyr

Mae ffermwyr coffi yn gwneud y mwyafrif o’r gwaith wrth gynhyrchu coffi, ond yn anaml y maen nhw’n derbyn cydnabyddiaeth a phris teg am eu gwaith.

Mae ansawdd ein coffi yn dibynnu ar waith caled ac ymroddiad y ffermwyr sy’n ei gynhyrchu gyda’r fath ofal. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig i chi wybod pwy dyfodd eich coffi, felly mae ein hadran ‘cwrdd â’r ffermwyr’ yn le y gallwch chi ddod i ddysgu mwy am y ffermwyr.

O’r 3000+ o ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi, pwy well i ddechrau gyda na Jenipher ei hun?

Enw: Jenipher Wettaka

Lleoliad at Mt Elgon: 2,400 metr uwchlaw lefel y môr

Tyfu coffi ers: 1992

Mae Jenipher yn fam weddw i chwech o blant. Mae hi wedi bod yn tyfu coffi ers degawdau, ac mae hi wir yn gwybod ei stwff. Mae Jenipher yn ffermio 2,400 metr uwch lefel y môr, yn uchel ar lethrau Mt Elgon, ac yn yr un modd â ffermwyr yng Nghymru, mae ei bywyd yn rhedeg law yn llaw ag anghenion ei chnydau.

Mae Jenipher hefyd yn Is-gadeirydd Menter Cydweithredol Cymunedau Amaeth-goedwigaeth Mt Elgon, MEACCE yn fyr. Cydweithredfa o dros 3,000 o ffermwyr sy’n gweithio gyda’u gilydd i gynhyrchu coffi, y mae peth ohono’n cael ei werthu fel Jenipher’s Coffi yng Nghymru. Fel Is-gadeirydd y cydweithredfa, ynghyd â’r Cadeirydd, Nimrod Wambette a gweddill y tîm arweinyddol, mae Jenipher yn cynrychioli ac yn cefnogi ffermwyr sy’n rhan o’r cydweithredfa. Mwy am gydweithfeydd yma.

Fel arweinydd y cydweithredfa, ac arweinydd yn ei chymuned – swyddi nad ydyn nhw’n cael eu taul yn aml gan fenywod yn Uganda – mae Jenipher yn arloesol tu hwnt. Yr un mor angerddol am gynhyrchu coffi o safon, ac amddiffyn ei chymuned a’i hamgylchedd rhag effeithiau newid hinsawdd, mae Jenipher yn ysbrydoliaeth i lawer yn ei chymuned. Mae hi’n sicr o’r ffaith bod Masnach Deg wedi chwarae rhan enfawr yn ei chefnogi ar ôl colli ei gŵr, a buddianu addysg a lles ei phlant.

Mwy am Jenipher yn ei geiriau ei hun: 

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am dy waith?

Rwyf wedi gallu addysgu fy mhlant trwy ffermio coffi.

Y pryder mwyaf ar gyfer y dyfodol?

Mae newid hinsawdd wedi effeithio ar ffermwyr ar Mt Elgon oherwydd weithiau rydyn ni’n profi sychder sy’n effeithio ar ein coffi. Hyd yn oed yn ystod glawiad trwm, mae hefyd yn effeithio ar yr aeron coffi a’r blodau coffi yn ystod blodeuo. Weithiau os ydym yn cael stormydd trwm gyda cenllysg, mae’n dinistrio ein coffi ac rydym wedyn yn gweld llawer o ddiffygion wrth brosesu’r coffi.

Pam fyddai hi’n annog rhywun i brynu Jenipher’s Coffi?

Gan ein bod yn cynhyrchu’r coffi i safonau Masnach Deg, rydyn ni’n cael pris da am ein coffi. Mae ein coffi o ansawdd da iawn a byswn yn hapus iawn pe bai pawb yng Nghymru yn ei yfed!

Oes gennych chi gwestiwn yr hoffech ei ofyn i Jenipher?

Rhannwch ef yma. Gan fod Jenipher yn byw mor uchel ar Mt Elgon, ac ansicrwydd cysylltiad yn Uganda, gall fod ambell i ddiwrnod neu wythnosau off-lein ar y tro, ond byddwn yn ceisio ein gorau i gael ateb ichi cyn gynted ag y gallwn.

Daliwch i ddarllen

Gweld popeth
Erthygl

Popo lan yn Mhorthcawl

Adnodd

Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc

Cyfle i bobl ifanc ymuno â cymuned Jenipher’s Coffi, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.

Erthygl

Ffermwraig. Arweinwraig. Brwydwraig.

Darllenwch araith Jenipher o ddiwrnod rhywedd COP26, sy’n arddangos y pŵer sydd gan Masnach Deg i rymuso menywod.