Shopping Basket

Jenipher’s Coffi, o’r ffa i’r gwpan

26th Awst 2021 Adnodd

O ble mae coffi yn dod? Sut mae’n tyfu? Pam ei fod yn frown?

Ydych chi erioed wedi meddwl beth allai’r atebion fod i rai o’r cwestiynau hyn? Peidiwch ag ofni, rydyn ni yma i helpu. Tra bod coffi yn un o hoff ddiodydd poeth y genedl, (mae 95 miliwn o gwpanau o goffi yn cael eu hyfed ​​bob dydd yn y DU!!), rydyn ni’n ymwybodol nad yw pawb yn gwybod sut mae wedi’i wneud.

Rydym wedi datblygu set o adnoddau addysg, y gellir eu defnyddio gartref neu yn yr ysgol fel y gallwch ddod i wybod ychydig yn fwy am daith Jenipher’s Coffi o’r ffa i’r gwpan.

Sut i ddefnyddio’r adnoddau?

Rydym wedi creu set o gyflwyniadau a gweithgareddau sy’n ymdrin â phynciau llythrennedd, rhifedd a chelf a dylunio. Dilynwch y canllawiau gam wrth gam, neu byddwch yn greadigol a chymysgwch nhw fel yr hoffech. Mwynhewch!

Gweithgaredd 1 – Cyflwyniad Powerpoint

Addas ar gyfer grŵp oedran blwyddyn 4-7 neu 7-9 +, lle byddwch chi’n dysgu am y broses goffi o’r ffa i’r gwpan.

(Yn cymryd tua 15+ munud)

Bydd y cynllun gwers yn eich tywys trwy’r broses os ydych chi eisiau mwy o strwythur.

Gweithgaredd 2 – Pecyn lluniau

Addas ar gyfer pob oedran, lle gallwch chi brofi a ydych chi wedi dysgu’r camau yn y broses.

(Yn cymryd tua 20+ munud)

Gweithgareddau ychwanegol – llythrennedd, rhifedd a chelf a dylunio

Gellir dod o hyd i’r rhain yn y cynllun gwers gyda syniadau fel ysgrifennu stori neu gerdd, mapio pellteroedd, a thynnu’ch lluniau eich hun yn dilyn yr hyn a ddysgwyd.

Lawrlwytho Ffeilau

I lawrlwytho ein hoffer addysgol, cliciwch y ddolen isod. Os oes gennych gwestiynau neu adborth cysylltwch â ni.

Lawrlwytho ffeilau

Daliwch i ddarllen

Gweld popeth
Erthygl

Popo lan yn Mhorthcawl

Adnodd

Sialens coffi i entrepreneuriaid ifanc

Cyfle i bobl ifanc ymuno â cymuned Jenipher’s Coffi, i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, yn lleol ac yn fyd-eang.

Erthygl

Ffermwraig. Arweinwraig. Brwydwraig.

Darllenwch araith Jenipher o ddiwrnod rhywedd COP26, sy’n arddangos y pŵer sydd gan Masnach Deg i rymuso menywod.