Mae Jenipher’s Coffi wedi ei enwi ar ôl Jenipher Sambazi, is-gadeirydd cydweithredfa o ffermwyr sy’n gweithio gyda’u gilydd ar lethrau Mt Elgon yn nwyrain Uganda i gynhyrchu ein coffi hyfryd. Wedi’i dyfu o bridd folcanig ffrwythlon, mae ein coffi Arabica o safon yn cael ei gynhyrchu’n organig ac i safonau Masnach Deg.
Mae yna reswm pam bod Jenipher ar ein label. Rydym ni’n angerddol iawn am gynhyrchu coffi blasus, ond rydyn ni hefyd yn gweithio i adeiladu perthnasoedd a chymunedau.
Mae Jenipher’s Coffi wedi tyfu o gyfeillgarwch dwfn rhwng pobl Cymru ag ardal Mt Elgon yn Uganda. Am ddegawdau, rydym wedi bod yn cyfnewid syniadau, yn rhannu dysgu ac yn gweithio law yn llaw i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r ardal a’r byd.
Bydd ein bagiau coffi bob amser yn cario’r Marc Masnach Deg, gan fod tegwch a pharch yn werthoedd wrth galon ein gwaith. Mae’r coffi yn cael ei dyfu’n organig ac mae ein deunydd pacio yn cael ei gaffael yn gynaliadwy oherwydd bod y gwerthoedd hyn yn ymestyn i bobl a’r blaned hefyd.
Bydd Jenipher’s Coffi bob amser yn cario’r Marc Masnach Deg gan fod parch a thegwch yn werthoedd pwysig i ni.
Yn felys, gyda tonnau o aeron a charamel, mae Jenipher’s Coffi yn cynhyrchu paned blasus a llyfn.
Mae’r ffermwyr sy’n cynhyrchu Jenipher’s Coffi yn rhan o brosiect sydd yn anelu at blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.
Bydd eich archeb yn cael ei ddanfon trwy broses dosbarthu cynaliadwy, am bris teg ac mewn pecynnau diogel.
Rydyn ni’n prynu ein ffa yn uniongyrchol o’r ffermwyr ar delerau Masnach Deg, ac maen nhw’n cael ei danfon atom gan yr Ethical Trading Company.
Rydym yn ystyried ein holl ddeunydd pacio yn ofalus, gan gydbwyso’r angen i leihau gwastraff a chadw’r coffi’n ffres.